* *
Ymweld â'r Wyddgrug
*
Cartref * Y Dref * Ardol Leol * Atyniadau * Digwyddiadau * Lleoliad
*
Chwilio'r safle
 
* * *
 
*
*
*
*

Atyniadau Lleol

Mae atyniadau yn Yr Wyddgrug yn cynnwys profiadau diwylliannol a threftadaeth a hwyl a chwaraeon, sy`n sicr o fod yn ddiwrnod allan gwych i`r teulu cyfan, pa bynnag amser o`r flwyddyn byddwch yn ymweld.

Mae eglwys hanesyddol y Santes Fair yn eistedd uwchben y dref. Fe`i ail-adeiladwyd gan Margaret Beaufort i anrhydeddu ei mab Harri`r VII, Brenin Tuduraidd cyntaf Lloegr, a medrwch olrhain pensaernïaeth o`r 14g ganrif i Oes Elisabeth a thrwodd i adferiadau`r Fictoriaid. Mae atyniadau diwylliannol eraill yn cynnwys bryngaerau Oes Haearn , Mwnt a Beili Normanaidd a Leeswood Hall, sy` enwog am ei grefftwaith oes ddiwydiannol a thiroedd braf.

Ewch ar Daith Tref Yr Wyddgrug neu Daith Hamdden Sir y Fflint i ddarganfod plastai, henebion a golygfeydd gwledig rhagorol. Ewch i`r amgueddfa leol i weld copi o`r Fantell enwog Euraid o`r Oes Efydd a dysgu am bobl enwog Yr Wyddgrug megis y nofelydd Daniel Owen, y cyfansoddwr Ambrose Lloyd a`r peintiwr Richard Wilson.

Mae Clwyd Theatr Cymru yn em ddiwylliannol adnabyddus, sy`n cynnig rhaglen amrywiol o theatr, ffilm, cerddoriaeth a dawns. Ymlaciwch yn y bwyty neu ewch i`r tair oriel gelf sydd ag arddangosfeydd gan artistiaid cyfoes ac ysgolion lleol. Mae lle parcio am ddim a mynediad i bobl anabl.

Mae gan Yr Wyddgrug ddewis da o leoedd i fwyta, gyda siopau coffi a bwytai yn gweini bwyd o bob cwr o`r byd. Byddwch hefyd yn darganfod tafarndai o amgylch Yr Wyddgrug sy`n berffaith i`r sawl sy`n chwilio am draddodiad a bwyd lleol da. I siopa, mae siopau bychain teuluol ynghyd â rhai mwy adnabyddus, marchnadoedd stryd bob dydd Mercher a Sadwrn, ac mae marchnad dan do ar agor chwe diwrnod yr wythnos. Mae marchnadoedd traddodiadol da byw ac ocsiwn ddwywaith yr wythnos gydag amrywiaeth anferth o eitemau, o ddodrefn i hen bethau i beiriannau torri gwair.

Mae cymaint i`w wneud, felly pam nad ewch i`r Ganolfan Groeso, yn Llyfrgell Yr Wyddgrug, i gael gwybodaeth am atyniadau a gweithgareddau.

Essentials
*
*
Cynt * Nawr Stryd Fawr Uchaf 1950
*

Darganfod Sir y Fflint ar y Ffordd