|
|
|||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||
Croeso i Ymweld â'r Wyddgrug![]() Mae`r Wyddgrug, yng Ngogledd Cymru, yn dref wych i ymweld â hi. 10 milltir i`r gorllewin o`r ffin gyda Lloegr, mae tref farchnad Yr Wyddgrug yn cynnig traddodiad a diwylliant i`r ymwelydd, ynghyd ag awyrgylch bywiog. O eglwysi hanesyddol a thrysorau cynhanesiol i siopau modern yn amrywio o siopau dillad bychain i enwau`r stryd fawr, mae`r Wyddgrug yn berffaith i`r teulu cyfan. Dewch i ddarganfod yr em hon ac fe welwch fwytai da a siopau coffi gyda marchnadoedd stryd a siopau unigol, a hanes sy`n ymestyn yn ôl dros 3,000 o flynyddoedd. Efallai y cewch gyfarfod un o`n hysbrydion hyd yn oed! Eich dewis chi: Medrwch fwynhau heicio neu feicio mynydd yn ein cefn gwlad hynod, neu medrwch ddilyn taith mwy hamddenol o amgylch y dref i ddarganfod ei chyfrinachau cudd. Mae`r amgueddfa leol yn cynnig stori gyflawn Yr Wyddgrug, o ddechrau`r cyfnod cynhanesiol. Mae Mantell Aur Yr Wyddgrug, 4000 mlwydd oedClwyd Theatr Cymru
Byddwch yn derbyn croeso cynnes a gwasanaeth cyfeillgar ar eich ymweliad â`r dref farchnad draddodiadol hon, sydd â chymaint i`w gynnig.
|
|
| Cartref | Y Dref | Ardal Leol | Atyniadau | Digwyddiadau | Lleoliad | Llety | Lle i Fwyta | Siopa | Cyfeirlyfr Busnes | Cysylltu â Ni © 2006 Hawlfraint Cyngor Tref Yr Wyddgrug. Cedwir holl hawliau. |