|
|
|||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||
Yr Ardal Leol
Mae dau barc gwledig o fewn ychydig filltiroedd i`r Wyddgrug. Mae Parc Gwledig Moel Famau wedi ei enwi ar ôl mynydd Moel Famau, sydd 1,818 troedfedd uwchben y môr ac yn cynnig golygfeydd hynod o`r wlad o gwmpas. Mae`r parc yn ymgorffori mwy na 2,000 erw o Fryniau Clwyd ac yn cynnwys tomenni claddu Oes Efydd, meini hirion ac olion tair bryngaer o`r Oes Haearn; Moel Fenlli, Moel-y-Gaer a Moel Arthur. Mae teithiau cerdded a natur i bob gallu ym Mharc Gwledig Loggerheads - 67 erw o barcdir bendigedig. Y nodwedd archaeolegol diwydiannol mwyaf hynod yn y Parc yw`r ‘Leete’ - cwrs dŵr a oedd unwaith yn gweithio olwynion dŵr nifer o fwyngloddiau yn y Dyffryn. Ynghyd â melin gorn weithredol mae Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr a chaffi hefyd. Dair milltir i`r gorllewin o`r Wyddgrug mae Bryniau Clwyd, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) sy`n cynnig golygfeydd hynod ar gyfer dringo, beicio a llawer mwy o chwaraeon a gweithgareddau cyffrous. Rhowch gynnig ar farchogaeth neu gerdded ar hyd amddiffynfeydd Clawdd Offa, neu Glawdd llai adnabyddus Wat. Mae llawer o opsiynau teithio yn ei gwneud yn hawdd symud o amgylch Yr Wyddgrug. Mae gwasanaethau bws yn mynd dros ardal gyfan Gogledd Cymru ac mae`r rhwydwaith ffyrdd yn rhagorol. Ar y trên medrwch dreulio`r dydd ym Manceinion neu Lerpwl, neu`n ymlacio ar y traeth, gyda meysydd parcio yng ngorsafoedd trên Y Fflint, Caer a Hooton, ac mae Caer a`r Amwythig yn cynnig cyfleusterau Parcio a Reidio. Mannau eraill i ymweld â hwy yw:
|
|
| Cartref | Y Dref | Ardal Leol | Atyniadau | Digwyddiadau | Lleoliad | Llety | Lle i Fwyta | Siopa | Cyfeirlyfr Busnes | Cysylltu â Ni © 2006 Hawlfraint Cyngor Tref Yr Wyddgrug. Cedwir holl hawliau. |