|
|
|||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||
Y DrefMae gan Yr Wyddgrug hanes balch yn dyddio`n ôl i oesoedd cynhanesiol. Mae darganfyddiadau archaeolegol yn cynnwys Mantell Oes Efydd Yr Wyddgrug a Bryngaerau Oes Haearn sy`n dangos fod pobl wedi byw yn yr ardal ers mwy na 3,000 o flynyddoedd. Sefydlwyd tref bresennol Yr Wyddgrug fel cadarnle yn ystod cyfnod y Normaniaid a gellir gweld castell `Mwnt a Beili` heddiw o hyd, ar frig Bryn Beili, safle strategol cryf sy`n edrych dros Dyffryn Alun. Heddiw, mae`n barc cyhoeddus lle medrwch fwynhau golygfeydd gwych dros y wlad o gwmpas. Dewch i weld y bensaernïaeth amrywiol a diddorol yn ac o amgylch Yr Wyddgrug gydag enghreifftiau o addurniadau Tuduriaid a Stiwartiaid, a thystiolaeth o sut mae`r chwyldro diwydiannol yn y 18fed a`r 19eg ganrifoedd wedi cyfrannu i dwf y dref. I warchod treftadaeth gyfoethog Yr Wyddgrug, mae yna bellach ardal gadwraeth lle mae siopau modern a chaffis o amgylch yr adeiladau arddull hŷn sy`n rhoi i`r dref gymysgedd unigryw o`r traddodiadol a`r cyfoes. Mae canol y dref yn brysur yn ystod marchnadoedd stryd traddodiadol Mercher a Sadwrn sydd wedi eu cynnal ers 1808. Cynhelir y farchnad da byw ger canol y dref ar ddydd Llun a Gwener bob wythnos. Ar Sadwrn cyntaf pob mis mae Marchnad Ffermwyr Yr Wyddgrug yn gwerthu cynnyrch lleol ffres yn uniongyrchol i gwsmeriaid o Neuadd Eglwys y Santes Fair. Yn ystod eich ymweliad, medrwch gymryd egwyl o archwilio`r marchnadoedd, siopau bychain unigol a siopau`r stryd fawr yn hafan heddychlon Parc y Dref, sy`n lle gwych ar gyfer picnic. Wrth archwilio`r Wyddgrug am gyfeiriadau at rai o`i feibion enwog, gan gynnwys Daniel Owen un o awduron blaenaf yr iaith Gymraeg, Richard Wilson artist tirluniau uchel ei barch ac aelod sylfaenydd yr Academi Frenhinol, J. Ambrose Lloyd y cyfansoddwr Cymreig enwog a Jonny Buckland prif gitarydd blaen Coldplay. Mae gwasanaeth bws rhagorol yn y dref ac mae cyfleusterau parcio rhad helaeth. Pam na gysylltwch gyda neu alw heibio`r Ganolfan Groeso, a leolir yn y llyfrgell, am fwy o wybodaeth ynglŷn â`r Wyddgrug a`r hyn sydd ganddi i`w gynnig. |
|
| Cartref | Y Dref | Ardal Leol | Atyniadau | Digwyddiadau | Lleoliad | Llety | Lle i Fwyta | Siopa | Cyfeirlyfr Busnes | Cysylltu â Ni © 2006 Hawlfraint Cyngor Tref Yr Wyddgrug. Cedwir holl hawliau. |